Mae amrywiaeth o gymorth i helpu gyda chostau yn ystod gwyliau’r haf a thu hwnt.

 

Prydau Ysgol am Ddim 
Llinell Gymorth – 029 2087 1071

ar-lein yma

 

Taleb Cychwyn Iach 
i brynu bwydydd iach a llaeth i blant ifanc ac yn ystod beichiogrwydd

ar-lein yma

rhif ffôn 0300 330 7010

 

Haf o Hwyl 

Ar ôl llwyddiant Gwên o Haf a Gaeaf Llawn Lles y llynedd, mae Caerdydd sy’n Dda i Blant yn dod â’r ŵyl “Haf o Hwyl” i blant a phobl ifanc Caerdydd dros wyliau’r haf.

ar-lein yma 

Bwyd a Hwyl’ Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf

Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen addysg yn yr ysgol sy’n darparu addysg am fwyd a maeth, gweithgarwch corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau bwyd iach i blant yn ystod gwyliau’r haf.

Cysylltwch ag ysgol eich plentyn i weld a yw’n cynnal y cynllun. Gofynnwch i’ch ysgol am fwy o fanylion

Grant Datblygu Disgyblion (GDD) 

Help i brynu gwisgoedd ysgol ac eitemau eraill.

ar-lein yma

Digwyddiadau’r Hyb

Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau am ddim yn cael eu cynnal mewn hybiau ar draws y ddinas. Gweler y wefan neu ewch i Hyb am fanylion am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal chi.

ar-lein yma

Sialens Ddarllen yr Haf 2022

Yr haf hwn, gall plant 4 i 11 oed yng Nghaerdydd ymweld â’u llyfrgell lleol a chymryd rhan mewn Her Ddarllen yr Haf gyda thema gwyddoniaeth ac arloesedd. Mae sticeri a gwobrau i’w hennill, ynghyd â thystysgrif a medal os gallant gwblhau’r Her!

ar-lein yma

Adnoddau Llyfrgell 

Mae Gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau am ddim.  Dewch yn aelod o’r llyfrgell am ddim i fenthyg llyfrau, yn ogystal â chael gafael ar adnoddau digidol fel e-lyfrau, llyfrau llafar, e-gylchgronau ac e-bapurau newydd.

ar-lein  yma
ffoniwch 029 2087 1071 Opsiwn 2

 

Mae plant a phobl ifanc yn cael teithio am ddim gyda Trafnidiaeth Cymru

Bydd plant o dan 11 oed yn cael teithio am ddim a bydd pobl ifanc o dan 16 oed yn cael teithio am ddim yn ystod cyfnodau tawelach gyda Trafnidiaeth Cymru, pan fyddant yn teithio gydag oedolyn sy’n talu am docyn.

ar-lein yma