Fe wnaeth ceisiadau gau ar 28 Chwefror 2022.  Mae ceisiadau a wnaed cyn y dyddiad hwn yn cael eu prosesu ar hyn o bryd.  Os nad ydych wedi clywed gennym erbyn 31 Mawrth, ffoniwch 029 2087 1071

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad o £100 gan eu cyngor lleol i’w roi tuag at eu biliau tanwydd gaeaf ar y grid o 13 Rhagfyr 2021.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn agored i aelwydydd lle mae un person o oedran gweithio yn derbyn budd-daliadau lles sy’n ddibynnol ar brawf modd unrhyw bryd rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.

Byddwn yn ysgrifennu at aelwydydd cymwys yr ydym yn ymwybodol ohonynt, i ofyn am wybodaeth sylfaenol i gefnogi’r hawliad a’r manylion i alluogi’r taliad.

Fel arall, os ydych yn gymwys i gael y cymorth hwn gallwch gyflwyno hawliad i ni o 13 Rhagfyr 2021.

 

Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf (cardiff.gov.uk)

Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf – Cais am Daliad (cardiff.gov.uk)

029 2087 1071