Eich Arian- Mae ysmygu 10 sigarét y dydd yn costio tua £31 yr wythnos.
I gwpl sy’n ysmygu, mae hynny’n golygu tua £3,264 y flwyddyn, £272 y mis a £62 yr wythnos – digon i dalu am siopau bwyd rheolaidd. Fel arall, gall newid i e-sigaréts arbed tua £800 y flwyddyn, neu mae newid i Therapi Amnewid Nicotin yn arbed bron i £700 y flwyddyn.
Dy iechyd- Rydym eisoes yn gwybod bod ysmygu yn ddrwg i’n hiechyd a gall arwain at wanhau systemau imiwnedd, clefyd y galon, niwmonia, COPD, strôc a chanser. Yn ogystal, mae ymchwil yn dangos bod ysmygwyr yn llawer mwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau sy’n bygwth bywyd o COVID-19.
Gwasanaethau stopio ysmygu am ddim i gynyddu eich siawns o roi’r gorau iddi yn llwyddiannus
Mae cael cymorth gan y GIG yn cynyddu eich siawns o roi’r gorau iddi gan 300% o gymharu â cheisio gwneud hynny ar eich pen eich hun. Mae GIG Cymru yn cynnig gwasanaeth Helpa fi i Stopio am ddim sy’n cynnwys meddyginiaeth rhoi’r gorau i ‘smygu am ddim sy’n addas i chi a chymorth dros y ffôn. Ewch i www.helpmequit.wales neu ffoniwch 0800 085 2219 i gael gwybod mwy.
Mae fferyllfeydd hefyd yn cynnig gwasanaethau rhoi’r gorau i ‘smygu (dros y ffôn yn ystod y cyfnod cloi) gyda meddyginiaeth rhoi’r gorau i ‘smygu am ddim. Ffoniwch eich fferyllfa leol i ddarganfod beth y gallant ei ddarparu ar hyn o bryd ac i drefnu eich cymorth rhoi’r gorau i ‘smygu.
I gael rhagor o wybodaeth am roi’r gorau i ‘smygu yn ystod y pandemig, ewch i www.ash.wales